Gweledigaeth
Dyma weledigaeth yr ysgol:
Gyda'n gilydd yn gryfach, bydd Ysgol Groes-wen yn sefydlu cymuned ysbrydoledig, cynnes a chroesawgar sydd yn dathlu Cymreictod gan ddatblygu amgylchedd cynhwysol a chynaliadwy.
Bydd ein plant yn datblygu fel unigolion creadigol, hyderus, egwyddorol, uchelgeisiol ac ieithyddion mentrus!

Fel ysgol sydd wed ennill y wobr Arian hawliau plant, rydym wedi gwreiddio ein hethos i sicrhau bod ein holl waith gyda un nod i gynnwys pawb. Yn ogystal, mae'r wobr IQM yn atgyfnerthu ein hymdrechion i gynnwys pob plentyn ar hyd ein taith.


