Dosbarth Rhosyn
Croeso i ddosbarth Rhosyn!
Miss Hughes yw athrawes y dosbarth, ac mae hi’n cael amser bendigedig gyda’r disgyblion! Mae pob diwrnod yn llawn egni, chwilfrydedd a llawenydd wrth i ni gefnogi’r plant i dyfu’n unigolion hyderus a galluog. Yn nosbarth Rhosyn, rydym yn annog y disgyblion i fod yn annibynnol yn eu dysgu, i gale ffydd ynddynt eu hunain ac i deimlo balchder yn eu cyflawniadau. Rydym yn eu helpu i fod yn egwyddorol ac yn barchus, gan wneud dewisiadau da a dangos caredigrwydd tuag at eraill. Anogir y disgyblion i fod yn wybodus a chwilfrydig, gan archwilio syniadau newydd gyda brwdfrydedd. Rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar iechyd a lles, gan gefnogi’r plant i fod yn egnïol, yn hapus ac yn ymwybodol o sut i ofalu am eu cyrff a’u meddyliau. Rydym yn dathlu ymroddiad—gan annog pob plentyn i barhau i geisio, gweithio’n galed ac i deimlo’n falch o’u cynnydd. Rydym yn falch o greu amgylchedd cynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo’n groesawgar, yn werthfawr ac yn cael parch. Trwy weithgareddau ysgogol a heriol, ein nod yw ysbrydoli cariad at ddysgu a helpu’r disgyblion i ffynnu, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Ymarfer Corff: Dydd Llun
Coedwig: Dydd Mawrth
Pecynnau darllen: Dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun a'u dosbarthu ar ddydd Mawrth
Byrbryd: Bydd disgyblion yn derbyn byrbryd iachus yn ystod sesiwn FIKA. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at y byrbryd.
