Skip to content ↓

Dosbarth Celyn

Dosbarth Celyn

Miss Davies sy’n arwain Dosbarth Celyn gan greu amgylchedd croesawgar lle mae pawb yn teimlo’n rhan o dîm. Rydym yn mwynhau dysgu trwy brofiadau cyffrous sy’n sbarduno chwilfrydedd a chreadigrwydd.

Yn y dosbarth, mae’r plant yn cael eu hannog i feddwl drostynt eu hunain, i roi cynnig ar syniadau newydd a chymryd balchder yn eu gwaith drwy hefyd mynd ati i geisio heriau newydd gyda hyder.

Mae parch, caredigrwydd a chydweithio wrth galon Dosbarth Celyn, gan greu teimlad cryf o berthyn a chymuned. Rydym hefyd yn rhoi pwyslais ar les corfforol a meddyliol, gan annog dewis ffordd o fyw iach, cadw’n egnïol a gofalu am ein hunain a’n gilydd.

Drwy ein profiadau dysgu cyffrous, rydym yn ysbrydoli cariad at ddysgu sy’n paratoi’r disgyblion ar gyfer y dyfodol, yn yr ysgol ac yn y byd ehangach.