Dosbarth Lili Wen Fach
Lili Wen Fach
Dosbarth Meithrin, Lili Wen Fach, Ysgol Gynradd Groes-wen Primary School:
Mae ein dosbarth Meithrin dan arweiniad Mrs Rhisiart yn dilyn y Cwricwlwm Nas Cynhelir, sy’n rhoi’r plentyn wrth galon dysgu a datblygiad ac yn cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i egwyddorion Froebel, lle mae chwarae, natur perthnasoedd a phrofiad byw go iawn yn ganolog i ddysgu ystyrlon.
Mae ein dosbarth Meithrin yn amgylchedd dawel a phwrpasol sy’n creu:
-
Annibyniaeth
- Chwilfrydedd a chreadigrwydd
- Perthnasoedd gref a theimlad o berthyn
Anogir plant i archwilio a gwneud dewisiadau eu hunain drwy brofiadau cyfoethog megis chwarae blociau, pobi bara, a darganfod pethau newydd yn yr awyr agored. Mae popeth wedi'i gynllunio i gefnogi eu twf fel dysgwyr hyderus a hawddgar.
Rydym hefyd yn ffodus o gydweithio â’r Cylch Meithrin, sydd wedi’i leoli ar dir yr ysgol, ac sy’n cynnig gwasanaeth 'wrap around' i blant ein dosbarth Meithrin, yn dibynnu ar niferoedd a’r galw. Gallwch ddarganfod mwy am eu darpariaeth yma: CYLCH MEITHRIN GROES-WEN
Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn llawn hwyl!
