Dobarth Alaw'r Dŵr
Mrs Davies yw athrawes dosbarth Alaw’r Dwr Dydd Llun tan Ddydd Iau ac mae’n gyffrous iawn i fod ar siwrne’r daith gyda’r disgyblion wrth gamu i flwyddyn newydd. Yn ein dosbarth ni mae awyrgylch hwylus sy’n annog dysgwyr i fod yn chwilfrydig, egniol a hyderus. Mae gan holl blant y dosbarth hawl i fod yn hapus ac i gael llais er mwy gallu arwain y dysgu mewn modd ymarferol, creadigol a gyda mwynhad. Wrth i blant hŷn y dosbarth dyfu rydym yn eu hannog i fod yn arweinwyr egwyrddorol, hyderus sy’n dangos parch at holl aelodau’r ysgol ac ymwelwyr o’r gymuned. Rydym yn annog pob plentyn i wneud eu gorau glas ac i gyrraedd gwir potensial yn ddyddiol. Byddwn yn darganfod syniadau newydd, holi cwestiynau a chyd-weithio fel tim. Gyda’n gilydd, medrwn anelu am y sêr.
