Skip to content ↓

ADY

Mae gan bob aelod o dîm Ysgol Gynradd Groes-wen ymrwymiad i addysg gynhwysol i bob plentyn drwy ddarpariaeth sydd yn galluogi pawb  i gyrraedd eu potensial llawn. 

Mae Ysgol Groes-wen yn ysgol groesawgar ac ysbrydoledig sydd yn dangos cydraddoldeb  i bawb.  Cynigwn amgylchedd cynhwysol a hyblyg sydd yn sicrhau bod pob disgybl yn rhan o gymuned agos a gofalgar. 

Mae’r ysgol yn ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr un cyfleoedd beth bynnag ei gallu neu anghenion.

Cynigwn gwricwlwm hyblyg a chytbwys sydd yn hybu egwyddorion cynhwysol. 

Defnyddir asesiad Wellcomm yn y Meithrin ac wrth symud drwy’r ysgol bydd pob plentyn yn cwblhau asesiad Language Links yn ogystal ȃ Speech links lle bod angen. 

Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag athrawon arbenigol y Sir er mwyn sicrhau y cefnogaeth gorau posib i bob unigolyn. Yn ogystal ȃ hyn mae nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gael i staff yr ysgol. 

Yn ychwanegol i sesiynau targedol yn y dosbarth, mae’r ysgol yn cynnig sesiynau 

  • Clwb lego 

  • Sesiynau Lles 

  • Maths Factor 

  • ELSA 

  • Cyfathrebu 

  • Handwriting Motorway 

  • Ymyrraeth Language Link 

  • Ymyrraeth Speech links