Skip to content ↓

Cwricwlwm i Gymru

 

Bydd y Cwricwlwm i Gymru ar waith yn ein hysgol newydd o Fedi 23 ymlaen. Bydd ein staff yn cynllunio ar y cyd i greu cynlluniau a gwersi cyffrous, llawn profiadau arbennig gyda dilyniant amlwg yn y sgiliau. Bydd llais y plant yn rhan allweddol o bob cyd-destun ar draws pob oedran!

Dewch i ddarllen am y 6 Maes Dysgu a Phrofiad!

Y Celfyddydau Mynegiannol

Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd â’u sgiliau perfformio.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes) yn cwmpasu pum disgyblaeth, sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Er bod gan bob un o’r disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a corff o sgiliau sy’n perthyn yn benodol i’r ddisgyblaeth honno, cydnabyddir eu bod, gyda’i gilydd, yn rhannu’r broses greadigol.

 

Iechyd a Lles

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol.  Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gysylltiedig â’i gilydd.  Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.

Bydd ymwneud â’r Maes hwn yn gymorth i feithrin dull gweithredu ysgol gyfan sy’n galluogi i iechyd a lles dreiddio i bob agwedd o fywyd ysgol. 

 

 

Y Dyniaethau

Gall Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (Maes) gynnau ymdeimlad o ryfeddod, tanio dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaladwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.

 

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes) yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl.

Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.

 

 

 

Mathemateg a Rhifedd

Mae datblygiad mathemateg wedi mynd law yn llaw â datblygiad gwareiddiad ers y cychwyn cyntaf.

Mae’n ddisgyblaeth wirioneddol ryngwladol, ac mae o’n cwmpas ni i gyd ac yn sail i gynifer o agweddau ar ein bywydau bob dydd, megis pensaernïaeth, celfyddyd, cerddoriaeth, arian a pheirianneg.

Er bod mathemateg ynddi hi ei hun, ac wrth gael ei chymhwyso, yn greadigol ac yn hardd, mae hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnydd mewn meysydd dysgu a phro?ad eraill.

 

 

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein byd modern.

Mae datblygiadau yn y meysydd hyn wedi bod yn gyfrifol am arwain newid yn ein cymdeithas erioed. Mae’r rhain yn sail i arloesi ac yn effeithio ar fywyd pob un, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol.

Felly bydd Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thecnoleg (Maes) yn gynyddol berthnasol yn y cyfleoedd y bydd ein hieuenctid ni yn eu profi, a’r dewisiadau y byddan nhw’n eu gwneud mewn bywyd.