Skip to content ↓

Ffion

Croeso i ddosbarth Ffion!

Miss Hughes yw'r athrawes ddosbarth, ac yn mwynhau'n arw. Anogwn ein  disgyblion i fod yn annibynnol, hyderus, egwyddorol, gwybodus, iach, gweithgar ac ymroddgar yn y dosbarth a'r awyr agored wrth gynllunio gweithgareddau sydd yn eu sbarduno a'u herio.

Cysyniad y dosbarth ar gyfer tymor y Gwanwyn yw 'Gwrthdaro', a chanolbwyntir ar 'Un Tro'. O fewn y tymor, canolbwyntir ar straeon amrywiol, gan ddathlu digwyddiadau Cymreig megis Santes Dwynwen a Dydd Gŵyl Dewi.

Ymarfer Corff: Dydd Llun

Pecynnau darllen: Dydd Mawrth ac Iau

Byrbryd: Gofynnwn i chi ddarparu byrbryd iachus a photel dwr i'ch plentyn yn ddyddiol

 

Dyma lun o'r dosbarth:

 

Wythnos yma buodd dosbarth Ffion a Fioled i lawr yn y goedwig fel rhan o 'Llun llawen'. Dyma ychydig o luniau ohonynt yn dysgu, archwilio ac yn mwynhau: