Skip to content ↓

Fioled

Croeso i ddosbarth Fioled.

Eleni'r athrawes dosbarth yw Miss Jefferies ac mae Miss Brunt yn cynorthwyo’r dysgu. Rydym yn annog i’r plant fod yn weithgar, chwilfrydig, iach, hyderus, egwyddorol ac yn wybodus. Mae’r dosbarth yma yn y ffrwd iaith ddeuol. Felly bydd disgyblion yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn feysydd mathemateg a rhifedd, gwyddoniaeth a thechnoleg a bydd hanner ein gwersi iechyd a lles a iaith a llythrennedd. Bydd y dyniaethau, celfyddydau mynegiannol a’r hanner arall o wersi iechyd a lles a iaith a llythrennedd yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dydd Llun: ymarfer corff (dewch yn eich cit)

Dydd Llun: Llun Llawen (anogwn i’r plant dod a dillad gwlyb a wellies!)

Byrbryd: Gofynnwn yn garedig i chi ddarparu potel o ddŵr a byrbryd iachus i’ch plentyn.

 

Wythnos yma buodd dosbarth Ffion a Fioled i lawr yn y goedwig fel rhan o 'Llun llawen'. Dyma ychydig o luniau ohonynt yn dysgu, archwilio ac yn mwynhau: