Skip to content ↓

Croeso gan Mr Carbis

 Hoffwn eich croesawu chi i wefan ein hysgol.  Yr ysgol yw’r gyntaf o'i math yng Nghaerdydd ac yn arloesol gyda'i chynnig o ffrwd addysg 'iaith ddeuol' newydd ochr yn ochr â ffrwd Gymraeg. Ysgol gymunedol groesawgar gydag ethos dwyieithog cryf ydyw, wedi'i leoli'n agos at fwynderau lleol eraill sy'n canolbwyntio ar weithio gydag ac ar gyfer yr ardal breswyl newydd sbon yng Nghaerdydd sef Plasdŵr ar dir i'r dde o Ffordd Llantrisant.  Felly dewch am daith arloesol i ddysgu beth sydd yn gwneud ein hysgol yn unigryw. O Ffrindiau Groes-wen i staff gwych, rydym yn gwneud ein gorau i sefydlu ein teulu arbennig, 'Teulu Groes-wen'.

Dyma weledigaeth yr ysgol: 

Gyda'n gilydd yn gryfach, bydd ysgol ddwyieithog Groes-wen yn sefydlu cymuned ysbrydoledig, cynnes a chroesawgar sydd yn dathlu Cymreictod gan ddatblygu amgylchedd cynhwysol a chynaliadwy.   

Bydd ein plant yn datblygu fel unigolion creadigol, hyderus, egwyddorol, uchelgeisiol a dwyieithog!